Uwchgyfrifiadura Cymru

13492 Supercomputing Wales logo - Full suite - Gradient Landscape

Mae Uwchgyfrifiadura Cymru yn rhaglen buddsoddi newydd gwerth £15 miliwn ym maes uwchgyfrifiadura. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Bydd ‘Uwchgyfrifiadura Cymru’ yn galluogi’r wlad i gystadlu’n fyd-eang am waith ymchwil ac arloesedd sy’n gofyn am gyfleusterau cyfrifiadura o’r radd flaenaf er mwyn efelychu a datrys problemau gwyddonol cymhleth. Caiff y prosiect bum mlynedd ei harwain gan Brifysgol Caerdydd, gyda Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe yn bartneriaid. Bydd y rhaglen yn cael £9 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru yn ogystal â buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan y pedair Prifysgol sy’n bartneriaid.

Mae’r rhaglen yn buddsoddi mewn dwy ganolfan uwchgyfrifiadura wedi’u huwchraddio yng Nghaerdydd ac Abertawe. Bydd yn cyflogi grŵp newydd fydd yn cynnwys Peirianwyr Meddalwedd Ymchwil sy’n rhan o dimau ymchwil academaidd mewn meysydd penodol. Byddant yn datblygu algorithmau a meddalwedd wedi’i theilwra sy’n manteisio ar bŵer y cyfleusterau uwchgyfrifiadura er mwyn gwneud sawl tasg gyfrifiadurol ar y cyd ar gyflymder uchel iawn.

cardiffswanseaaber

Sut bydd y cyfleuster yn cael ei ddefnyddio?

Bydd Uwchgyfrifiadura Cymru yn galluogi’r prosiectau gwyddoniaeth ac arloesedd proffil uchel sy’n bodoli eisoes yng Nghymru i gael mynediad at gyfleusterau cyfrifiadura pwerus. Y nod yw casglu mwy o arian ar gyfer ymchwil, gwneud mwy o bartneriaethau gwyddonol, creu swyddi sy’n gofyn am sgiliau ymchwil uchel a chefnogi cydweithio â phartneriaid diwydiannol ac eraill.

Er enghraifft, bydd y Grŵp Ffiseg Disgyrchiant ym Mhrifysgol Caerdydd yn elwa o’r cyfleusterau gwell. Llynedd, cyhoeddwyd ganddynt eu bod wedi canfod y tonnau disgyrchiant cyntaf fel rhan o gonsortiwm LIGO (Laser Interferometer Gravitational-Wave Observatory). Dros y blynyddoedd nesaf, bydd tonnau disgyrchiant yn galluogi ymchwilwyr i edrych ar graidd ffrwydradau sêr, archwilio strwythur sêr niwtron – ac efallai y gwelwn ffenomena hollol newydd ac annisgwyl a fydd yn herio ein dealltwriaeth bresennol o’r bydysawd. Bydd Parc Geneteg Cymru sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd hefyd yn manteisio ar y cyfleusterau, gan ei helpu i ddatblygu ei ymchwil arloesol sy’n rhoi dealltwriaeth, diagnosis a thriniaethau i ystod eang o glefydau etifeddol a chanser.

Ym Mhrifysgol Abertawe, bydd y cyfleusterau yn cefnogi Bloodhound – car 1,000mya cyntaf y byd – a bydd y cyfleusterau yn cael eu defnyddio i efelychu sut y bydd y car yn ymddwyn wrth deithio ar gyflymder uchel digyffelyb. Bydd Prifysgol Abertawe hefyd yn defnyddio’r adnoddau i greu’r wybodaeth sydd ei hangen fyd-eang i ragweld y tywydd a gwella modelau o’r tywydd. Bydd yr algorithmau sy’n cael eu datblygu gan y Brifysgol yn cael eu defnyddio gan Swyddfa Dywydd y DU fel rhan o ragolygon dyddiol y tywydd.

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddant yn defnyddio’r cyfleusterau er mwyn cefnogi prosiectau ymchwil. Mae’r rhain yn cynnwys dilyniant DNA er mwyn bridio planhigion, a heriau ‘Data Mawr’ wrth edrych ar y byd. Defnyddir y cyfleusterau er mwyn dadansoddi darluniau lloeren eglur iawn i asesu arwyneb y tir a llystyfiant. Bydd y cyfleusterau ym Mhrifysgol Bangor yn cefnogi prosiectau ar ynni llanw a phrosiectau eigionegol. Bydd cyfleoedd iddynt hefyd ryngweithio â phrosiectau SEACAMS 2 a ariennir gan ERDF.