Amdanom

“Mae Uwchgyfrifiadura Cymru yn fuddsoddiad sylweddol sy’n gam mawr ymlaen i Gymru, gan gyfrannu at ei gystadleurwydd mewn gwyddoniaeth, peirianneg ac arloesi.””

Yr Athro Roger Whitaker

Cyfarwyddwr Academaidd, Uwchgyfrifiadura Cymru Prifysgol Caerdydd

Amdanom Ni

Mae Uwchgyfrifiadura Cymru yn rhaglen fuddsoddi £16m, a rannol ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, i ddarparu mynediad at gyfleusterau cyfrifiadura pwerus i dimoedd ymchwil i ymgymryd â phrosiectau gwyddoniaeth ac arloesi uchel eu proffil ym mhrifysgolion y consortiwm – Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, a Phrifysgol Aberystwyth.

Mae’r rhaglen yn cynnwys buddsoddiad mewn dwy ganolfan uwchgyfrifiadura wedi’u huwchraddio a grŵp newydd o Beirianwyr Meddalwedd Ymchwil ledled Cymru i ddatblygu

algorithmau a meddalwedd wedi’i theilwra sy’n manteisio ar bŵer y cyfleusterau. Cefnogir y cyfleusterau gan dîm technegol profiadol ac arbenigol.

Mae’r buddsoddiad yn darparu amgylchedd sy’n cefnogi cyflwyno rhagor o ymchwil a ariennir yn allanol. Bydd hyn yn digwydd trwy gynyddu partneriaethau gwyddonol, cefnogaeth i swyddi ymchwil medrus, a chydweithio pellach gyda phartneriaid diwydiannol ac eraill. Mae hyn yn galluogi newid slweddol i ymchwil wyddonol a alluogir gan uwchgyfrifiadura yng Nghymru.

Y Cyfleusterau

Lleolir y canolfannau uwchgyfrifiadura ym mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe, gyda thimoedd ymchwil ar draws prifysolion y consortiwm yn cael mynediad at y ddwy ganolfan drwy gysylltiadau rhwydwaith cyflym iawn.
Mae’r cyfleusterau gafodd eu huwchraddio yn 2018 yn cynnwys 13,080 o greiddiau prosesu, wedi eu cysylltu â chronfa a storfa gyflymder uchel, yn daparu 1 Petaflop o brosesu cyfrifiadurol. Mae hyn yn cyfateb i un mil miliwn miliwn (1015) o weithrediadau pwynt symudol
yr eiliad.