Ymchwil o’r radd flaenaf
Mae Peirianwyr Meddalwedd Ymchwil (RSEs) Uwchgyfrifiadura Cymru yn gweithio gyda thimau ymchwil sefydledig
Cydweithio â Diwydiant
Mae hyn yn gyson â’r agenda effaith ymchwil sydd wedi deillio o ymarfer asesu ymchwil y DU, sy’n beirniadu’r sector Addysg Uwch ar y graddau y mae ymchwil yn cael effaith ar y byd y tu hwnt i academia. Mae cyfle i gwmnïau Cymreig fod yn rhan o’r datblygiadau hyn a fydd o fydd i’r economi ehangach.
- Deunyddiau graddfa nano a pheirianneg uwch
- Ynni a’r amgylchedd
- Gwyddorau Bywyd ac iechyd
- Yr Economi Ddigidol
Mae’r holl feysydd yn cynnig cyfle sylweddol ar gyfer cydweithredu â phartneriaid diwydiannol, gan o bosib gynyddu cyfleoedd cyflogaeth a chefnogi adfywiad economaidd yn yr economi wybodaeth yng Nghymru.
Cwrdd â’r tîm

Graddiodd Aaron o Brifysgol Bangor yn 2015 gyda Baglor mewn Cyfrifiadureg. Roedd ei draethawd hir yn archwilio’r defnydd o algorithmau genetig a chyfrifiadura perfformiad uchel i greu allweddi cryptograffig. Wedi iddo gwblhau ei astudiaethau, cafodd Aaron swydd datblygwr meddalwedd mewn cwmni meddalwedd ariannol, lle y bu’n datblygu datrysiadau anfonebu a thalu amser real, yn hyfforddi datblygwyr meddalwedd iau ac yn cynorthwyo â’r gwaith o ddylunio system bensaernïol. Mae Aaron yn gweithio fel peiriannydd meddalwedd ymchwil ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd, lle mae’n cyfuno ei arbenigedd mewn rhaglennu â dealltwriaeth fanwl o waith ymchwil mewn gwyddorau STEM er mwyn trosi anghenion ymchwil yn gymwysiadau cyfrifiadura perfformiad uchel.

Enillodd Anna ei MPhys mewn Ffiseg Ddamcaniaethol ym Mhrifysgol Abertawe yn 2013 ac mae wedi ennill ei PhD yn ddiweddar mewn Efelychiadau ffwythiant anghytbwys Green o wasgaru ffonon a hunan-wresogi mewn transistor effaith maes nanoweiriau III-V ym Mhrifysgol Abertawe yn 2017. Mae wedi ymuno ag Ysgol Fiowyddorau Caerdydd yn ddiweddar, lle bydd yn defnyddio dysgu peiriannau a gwyddor data i gefnogi prosiectau ymchwil mewn gwaith ymchwil biolegol a biofeddygol.
Derbyniodd Tianyi ei radd PhD mewn Peirianneg Mecanyddol gan Brifysgol Leeds yn 2020, gan ganolbwyntio ar ddadansoddi aerodynamig o fuddion cydlyniant a hydlymiad dosbarthol er mwyn gwella perfformiad aerodynamig awyren dosbarthol fawr tronsig. Mae gan Tianyi fwy na 8 mlynedd o brofiad o ddefnyddio modeliadau CFD cywirdeb uchel ar gyfer ymchwil aerodynamig ac hydrodynamig ar HPC. Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, bu Tianyi yn gweithio yn Proctor & Gamble, fel Swyddog Ymchwil, ar brosiectau dadansoddi CFD cydweithredol ar gyfer fferyllau cymhleth (h.y., llif aml-rwysedd, llif arwyneb rhydd, a nwyddau an-Newtonaidd, ac ati) ac optimeiddio cynllun dyfroedd.