Polisi Preifatrwydd

Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth rydych yn ei roi i ni pan rydych yn defnyddio’r wefan hon.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei diogelu. Pe byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth benodol y gellir ei defnyddio i’ch adnabod wrth ddefnyddio’r wefan hon, yna gallwch fod yn sicr y bydd yn cael ei defnyddio yn unol â’r Polisi Preifatrwydd hwn yn unig.

O bryd i gilydd, mae’n bosib y byddwn yn newid y polisi hwn trwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech wirio’r dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn fodlon gydag unrhyw newidiadau.

Beth rydym yn ei gasglu

Mae’n bosib y byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol:

  • Enw
  • Manylion cyswllt gan gynnwys cyfeiriad e-bost a chod post

Beth rydym yn ei wneud gyda’r wybodaeth a gasglwn

Rydym angen y wybodaeth yma oherwydd y rhesymau canlynol:-

  • Er mwyn gwella ein cynnyrch a gwasanaethau
  • O bryd i’w gilydd efallai byddwn yn anfon e-byst yn hyrwyddo digwyddiadau newydd neu wybodaeth arall rydym yn credu gallai fod yn o ddiddordeb i chi gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost ddarparoch chi. Bydd gennych y cyfle i optio allan o hyn wrth gofrestru ar gyfer digwyddiad
  • Er mwyn cadw cofnodion mewnol
  • O bryd i’w gilydd, efallai byddwn hefyd yn defnyddio’ch gwybodaeth i gysylltu â chi at ddibenion ymchwil i’r farchnad. Mae’n bosib y byddwn yn cysylltu â chi ar e-bost, dros y ffôn neu yn y post, a gallwn ddefnyddio’r wybodaeth yma i addasu’r wefan i gyd-fynd â’ch diddordebau.

Diogelwch

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad anawdurdodedig, rydym wedi rhoi gweithdrefnau corfforol, electronig a rheolaethol addas yn eu lle er mwyn diogelu’r wybodaeth rydym yn ei chasglu ar-lein.

Dolenni i wefannau eraill

Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill o ddiddordeb. Fodd bynnag, unwaith i chi ddefnyddio’r dolenni hyn i adael ein safle, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall honno. Felly, ni ellir ein dal yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a ddarparwch wrth ymweld â safleoedd fel hyn, oherwydd nid yw’r Datganiad Preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r safleoedd hynny. Dylech fod yn wyliadwrus ac edrych ar y Datganiad Preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.

Rheoli’ch gwybodaeth bersonol

Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu neu brydlesu’ch gwybodaeth bersonol i drydydd parti oni bai bod gennym eich cefnogaeth neu’n bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith ein bod yn gwneud hynny. Gallwn ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol i anfon gwybodaeth hysbysebu atoch am drydydd parti rydym yn credu gallai fod o ddiddordeb i chi os ydych yn dweud wrthym ei fod yn iawn i ni wneud hynny. Gallwch ofyn am fanylion o wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw amdanoch o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd rhaid talu ffi fechan. Os hoffech gopi o’r wybodaeth a gedwir amdanoch, gofynnir ichi ysgrifennu atom.

Os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, gofynnir ichi ysgrifennu neu anfon e-bost atom cyn gynted â phosib, at y cyfeiriad uchod. Byddwn yn cywiro unrhyw wybodaeth ar unwaith os yw’n anghywir.