Mae Roger Whitaker, syân Athro Deallusrwydd Cyfunol ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr Academaidd Uwchgyfrifiadura Cymru, wedi bod yn gweithio ar y cyd â MIT ar ymchwil syân awgrymu bod rhagfarn yn gallu datblyguân hawdd mewn poblogaethau o asiantiaid ymreolaethol. Mae i hyn oblygiadau ar gyfer deall rhagfarn, a datblygiad grwpiau rhagfarnus, ymhlith pobl.
âRoeddem yn ceisio deall beth syân gwneud i asiantiaid neu fotiau syml fynd yn rhagfarnus, a phâun ai a ywân ffenomen syân bodoli mewn natur â a oes pwysau ar boblogaeth i fynd yn rhagfarnus. Felly maeân eithaf haniaethol, a sylfaenol, ond maeân galw am lawer o bĹľer uwchgyfrifiadura,â meddai Whitaker.
Sefydlodd tĂŽm Whitaker fodel i brofi problem gydweithredu, lle maeân rhaid i asiantiaid ryngweithio a phenderfynu pâun ai a ydynt yn mynd i helpu ei gilydd.
âYr enw ar hyn yw cilyddiaeth anuniongyrchol ac feâi gwelir yn aml mewn bywyd bob dydd. Dal drws ar agor i rywun, er enghraifft: mae cost fechan i ni, ond budd mwy iâr person arall,â meddai.
âRydym niân gosod problem artiffisial mewn bywyd, gydag asiantiaid yn gorfod penderfynu pâun ai i roi i asiantiaid eraill. Rydym yn gosod y broblem i archwilio pâun ai a yw asiantiaid yn datblygu rhagfarn: a fyddent yn dechrau penderfynu peidio cydweithredu ar y sail nad ywâr derbynnydd yn dod oâr un grĹľp ââr rhoddwr,â meddai.
Gan ddefnyddio Uwchgyfrifiadura Cymru, roedd y tĂŽm yn gallu rhedeg âmiloedd o asiantiaid yn chwarae gydaâi gilydd mewn efelychiadau o gemau rhoi, lle cafodd yr asiantiaid gyfle i ffurfio grwpiau ar sail rhagfarnâ, meddai.
âRoeddem wedi gallu rheoli paramedrauâr arbrawf, ac arsylwi amodau lleâr oedd asiantiaid â safbwyntiau rhagfarnus tebyg yn ffurfio grwpiau, drwyâr hyn syân cael ei alwân âhomophilyâ. Rhagdybiwyd bod gan asiantiaid â natur ragfarnus debyg gyfle uwch o gymathu ââi gilydd ar y sail eu bod yn gyfforddus ââu hymddygiad ei gilydd.
âFe wnaethom ddarganfod bod grymoedd sydd fel petaent yn ei gwneud hiân haws i unigolion ddatblygu rhagfarn a dod ynghyd mewn grwpiau. O fewn y grwpiau hynny, mae cydweithreduân dod iâr amlwg â felly maent yn datblyguân unedau ynysig, ond hynod gydweithredol,â meddai Whitaker.
âHefyd, dangosodd fod potensial i ragfarn ymsefydlu oâi wirfodd pan fydd gennych systemau o ddyfeisiau sydd â rhyw raddau o ymreolaeth a synhwyro,â meddai.
Fe wnaeth gweithio gyda MIT helpu i godi proffil y prosiect, meddai Whitaker, ac roedd yn gyfle da i ddangos yr hyn sydd gan Uwchgyfrifiadura Cymru iâw gynnig.
âDangosodd y cydweithrediad rhyngwladol hwn fod gan Gymru gyfleusterau a galluoedd oâr radd flaenaf, gan gynnwys y gallu i gyflymu ymchwil drwy beirianwyr meddalwedd ymchwil medrus tu hwnt. Caniataodd yr amgylchedd hwn iâr gwaith gyrraedd ei lawn botensial,â meddai.
âMaeâr modelau hyn yn dibynnuân fawr ar hap-ddewisiadau gan asiantiaid. Maen nhw hefyd yn esblygiadol: dros genedlaethau, mae angen i asiantiaid ddechrau rhyngweithio yna oedi o dro i dro, a phenderfynu pâun ai i newid ymddygiad ar sail dysgu cymdeithasol. Maeâr uwchgyfrifiadur yn caniatĂĄu i ni chwarae senarios a rhedeg yr un efelychiadau dro ar Ă´l tro, gyda hap bwyntiau dechrau gwahanol. Mae ein peirianwyr meddalwedd ymchwil yn gallu helpu i wneud y mwyaf o hynny ac mae ganddynt gefndir syân cyfrannu at yr efelychiadau, gan ddeall y cysyniadau ac awgrymu sut iâw trosi er mwyn sicrhauâr effeithlonrwydd cyfrifiannol mwyaf.â
