Modelu pŵer y môr fel ffynhonnell ynni carbon isel

Nid yw defnyddio pŵer y môr yn rhywbeth newydd: mae pobl wedi bod yn defnyddio amrediad y llanw – y codi a’r gostwng yn lefelau’r môr – ers y canol oesoedd i yrru melinau a malu ŷd. Bellach, mae technolegau newydd yn caniatáu i ni drawsnewid pŵer y llanw a’r tonnau yn drydan, a nod ymchwil gan Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yw deall yr adnoddau sydd ar gael a’r ffordd orau o’u harneisio.

“Y peth da am y llanw yw bod modd ei ragweld, felly gallwch weld pa gyfraniad y gall wneud am gant o flynyddoedd i’r dyfodol. Mae amrediad y llanw, a llif y llanw, lle’r ydych yn harneisio ynni cinetig y llanw gan ddefnyddio tyrbin echelin lorweddol, fel melin wynt tanddwr,” meddai Simon Neill, Athro mewn Eigioneg Ffisegol.

“Ac yna mae gennym ynni’r tonnau. Mae’n llai datblygedig nag ynni’r llanw gan fod tonnau, o’u natur, yn eithaf dinistriol ac, wrth gwrs, rydym am roi eich dyfeisiau rywle lle mae’r tonnau’n egnïol – felly ar hyn o bryd, mae’n rhaid gorbeiriannu’r dyfeisiau yn sylweddol i wrthsefyll y grymoedd hynny,” meddai Neill.

Mae ymchwil Neill yn canolbwyntio ar ddeall yr adnodd ei hun, a nodi’r lleoliadau gorau oll ar gyfer dyfeisiau ynni.

“Mae tonnau, er enghraifft, yn amrywio dros gyfnod hir ac ni allwch wir ddweud unrhyw beth ystyrlon am yr adnodd hyd nes bod gennych o leiaf gofnod deng mlynedd. Felly, gallech roi dyfais mesur y tonnau yn ei lle ac aros ddeng mlynedd. . . neu gallwch ddefnyddio modelu. Rydym ni’n defnyddio mesuriadau i adeiladu model a gweld sut bydd pethau’n amrywio dros 10, 20 neu hyd yn oed 50 mlynedd. Gallwch edrych ar bethau fel y newid yn yr hinsawdd: nid oes neb wir yn gwybod sut olwg fydd ar hinsawdd y tonnau yn 2050, felly’r unig beth y gallwch ei wneud yw rhedeg model,” meddai.

Hefyd, mae’r tîm yn ystyried y rhyngweithio rhwng echdynnu ynni a’r adnodd.

“Os rhoddaf arae 100 megawat yn ei le, ni fyddwn i wir yn gwybod beth yw’r effaith ar yr amgylchedd tan ar ôl ei adeiladu. Trwy fodelu, gallwch weld beth fyddai’r effeithiau, a newid y siâp neu’r lle rhwng dyfeisiau i leihau effeithiau ar yr amgylchedd,” dywed Neill.

Mae modelau’r llanw, ac yn enwedig modelau’r tonnau, yn “eithriadol o ddrud yn gyfrifiannol”, a gall gymryd hyd at dri mis i’w cwblhau, hyd yn oed ar gyfleuster mor helaeth ag Uwchgyfrifiadura Cymru, ond mae’r cyfleuster a’r tîm yn ei gwneud hi’n hawdd i Neill.

“Cyn hyn, bu’n rhaid i ni dreulio llawer o amser yn sefydlu ac yn optimeiddio ein modelau – ond roedd hynny’n amharu ar y wyddoniaeth. Mae bodolaeth y tîm pwrpasol hwn sy’n delio â’r holl faterion technegol yn wych. Ar ôl rhai trafodaethau am gymhwysiad model newydd, byddan nhw’n gofalu am yr holl drefniadau technegol ac optimeiddio, ac yn rhoi rhai sgriptiau i mi redeg y model, fel y gallaf i ganolbwyntio ar gael allbynnau,” meddai.